Comisiwn y Gyfraith: 14eg Rhaglen o Ddiwygio'r Gyfraith
Annwyl ymgynghorai, Diolch am eich diddordeb yng Nghomisiwn y Gyfraith ac ein 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith. Fe fydd eich cyfraniad yn helpu llunio ein blaenoriaethau diwygio’r gyfraith am y tair i bedair blynedd nesaf. Mae Comisiwn y Gyfraith yn diwygio’r gyfraith er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn deg, modern, syml a chost effeithlon. Bwriad yr ymgynghoriad yma ydy i benderfynu pa feysydd o’r gyfraith sydd angen eu hadolygu yn y rhaglen nesaf. I wneud hyn, rydym ni’n gofyn i chi ddweud wrthym ni pa rannau o’r gyfraith sydd ddim yn gweithio’n effeithiol ar y funud. Rydym ni’n awyddus i glywed eich syniadau diwygio chi. Rydym ni wedi awgrymu nifer o themâu a rhai syniadau penodol ar gyfer prosiectau unigol lle rydym ni’n awyddus i gynnig diwygiadau, ac felly croesawn eich sylwadau. Mae ein awgrymiadau thematig am ddiwygiad ar gael yma ac mae ein awgrymiadau penodol am ddiwygiad ar gael ym