Threads / Combinable Crops Sector Contractual Relationships / Arferion contractiol yn y sector cnydau a gynaeafir â chomb…
Closed Consultation Published 10 Dec 2025 Department for Environment, Food & Rural Affairs ↗ View on GOV.UK

Arferion contractiol yn y sector cnydau a gynaeafir â chombein yn y Deyrnas Unedig

Mae'r sector cnydau a gynaeafir â chombein yn y DU, sy'n cynnwys grawnfwydydd, hadau olew a chodlysiau, yn hollbwysig wrth sicrhau diogelwch bwyd cenedlaethol ac yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi ehangach. Mae'r cnydau hyn yn darparu deunyddiau crai hanfodol nid yn unig i'w bwyta gan bobl ond ar gyfer bwydo anifeiliaid a chynhyrchu ynni adnewyddadwy hefyd. Er ei bwysigrwydd, mae'r sector yn wynebu heriau mawr fel tywydd eithafol yn sgil y newid yn yr hinsawdd, costau anwadal mewnbynnau fel gwrtaith a thanwydd, ac amrywiadau mewn marchnadoedd nwyddau byd-eang. Gall y pwysau hwn ddwysáu'r anghydbwysedd sy’n bodoli yn y pŵer bargeinio rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr, a gall hyn yn ei dro danseilio sefydlogrwydd y sector. Mae'r sector cnydau a gynaeafir â chombein yn rhan o farchnad gymhleth a chydgysylltiedig ar lefel fyd-eang sy'n cynnig cyfleoedd a heriau. Er bod y sector hwn yn aml yn fwy tryloyw na sectorau amaethyddol eraill – gyda llawer

Opened 10 Dec 2025
Closed 4 Feb 2026