Perthnasoedd mewn contractau yn niwydiant cynnyrch ffres y Deyrnas Unedig
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag annhegwch mewn contractau lle mae'n bodoli yn y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Yn Uwchgynhadledd y Deyrnas Unedig, O’r Fferm i’r Fforc, a gynhaliwyd yn Downing Street ar 16 Mai 2023 cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygiad newydd o degwch yn y gadwyn gyflenwi garddwriaeth er mwyn helpu ffermwyr Prydain a gwella diogelwch bwyd. Mae hyn yn adeiladu ar yr adolygiadau sydd gennym ar y gweill yn barod gan ddefnyddio pwerau o dan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i wella tryloywder a bargeinio teg mewn contractau yn y sectorau llaeth a phorc, ac ym mis Hydref lansiwyd adolygiad o'r sector wyau. Mae'r adolygiad yma yn canolbwyntio ar gynnyrch ffres yn y sector garddwriaeth bwytadwy, y cyfeirir ato fel 'cynnyrch ffres' drwy’r ymgynghoriad yma i gyd. Mae cannoedd o wahanol gnydau cynnyrch ffres sy'n amrywio'n fawr o ran y farchnad y mae'r cynnyrch yn cael ei werthu iddi, amodau tyfu