Threads / Poultry Meat Marketing Regulations / Ymgynghoriad ar ofynion cofrestru arfaethedig pob ceidwad a…
Closed Consultation Published 7 Mar 2023 Department for Environment, Food & Rural Affairs ↗ View on GOV.UK

Ymgynghoriad ar ofynion cofrestru arfaethedig pob ceidwad adar ym Mhrydain Fawr

Rydym yn ceisio eich barn ar ein cynlluniau i'w gwneud yn orfodol i bob ceidwad [1] dofednod [2] ac adar caeth eraill [3] gofrestru ei aderyn/adar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Ar hyn o bryd, mae'n orfodol i berson sy’n geidwad 50 neu ragor o ddofednod mewn unrhyw safle unigol gofrestru ei adar ar gofrestr dofednod Prydain Fawr drwy ddarparu gwybodaeth benodedig am yr adar. Mae'r wybodaeth ar y gofrestr dofednod yn bwysig i atal a rheoli brigiadau o achosion clefyd adar hysbysadwy (fel ffliw adar a chlefyd Newcastle). Mae ffliw adar yn glefyd feirysol hynod heintus sy'n effeithio ar adar domestig ac adar gwyllt. Defnyddir yr wybodaeth ar y gofrestr i wneud y canlynol: cyfathrebu â cheidwaid pan fo risg uwch o ymlediad ffliw adar, ac yn ystod brigiadau o achosion o ffliw adar a chlefyd Newcastle, ar fesurau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal y clefyd rhag lledaenu bodlo

Opened 7 Mar 2023
Closed 31 May 2023