Diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ceisio safbwyntiau ar gynigion i ddiweddaru a diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a Rheoliadau Bara a Blawd (Gogledd Iwerddon) 1998 sy’n ymdrin â rheolau penodol ar labelu a chyfansoddiad bara a blawd. Yn bennaf, mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn orfodol i gyfnerthu blawd gwenith gwyn a blawd gwenith brown wedi’u melino nad ydynt yn gyflawn, sy’n cael eu gweithgynhyrchu a’u gwerthu yn y DU, â chalsiwm, haearn, thiamin a niasin, a hynny am resymau iechyd y cyhoedd i ddiogelu poblogaeth y DU rhag diffygion maethol. Cododd galwadau am adolygiad o’r rheoliadau oherwydd y newidiadau deddfwriaethol ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) . [1] Roedd y ceisiadau i’w hadolygu yn bennaf o ganlyniad i wahaniaeth rhwng y Rheoliadau Bara a Blawd a darnau eraill o ddeddfwriaeth bwyd o ran lefelau a manylebau fitaminau a mwy