Threads / Combinable Crops Sector Contractual Relationships / Cydberthnasau contractiol yn niwydiant llaeth y DU
Closed Consultation Published 24 Jun 2020 Department for Environment, Food & Rural Affairs ↗ View on GOV.UK

Cydberthnasau contractiol yn niwydiant llaeth y DU

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn mewn ymateb i bryderon a godwyd bod cynhyrchwyr cynradd, gan gynnwys ffermwyr godro, yn tueddu i fod mewn sefyllfa gymharol wan ym marchnad y gadwyn cyflenwi bwyd. Y consensws ymhlith cynhyrchwyr amaethyddol y DU yw y gall y pŵer bargeinio anghyfartal â phroseswyr a manwerthwyr wneud ffermwyr yn agored i driniaeth annheg gyda'r potensial i danseilio proses o drosglwyddo prisiau teg ar hyd y gadwyn. Mae nifer o wledydd eraill wedi cyflwyno rheoliadau mewn ymgais i sefydlogi marchnadoedd a mynd i'r afael ag anghydbwyseddau systemig. Yn yr Undeb Ewropeaidd, mae 13 o aelod-wladwriaethau, gan gynnwys Ffrainc a Sbaen, wedi cyflwyno cyfreithiau ar gontractau llaeth ysgrifenedig gorfodol rhwng ffermwyr a phroseswyr. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei dadansoddiad o'r gadwyn cyflenwi llaeth a'r ffordd y cymhwysir Contractau Ysgrifenedig Gorfodol ledled yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn gwerthuso effaith y contractau lle maent wedi cael eu mabwysiadu

Opened 24 Jun 2020
Closed 15 Sep 2020